18 376 863 książek w 175 językach
Jednak się nie przyda? Nic nie szkodzi! Możesz zwrócić produkty nawet do 30 dni
Bon prezentowy to zawsze dobry pomysł. Obdarowany może za bon prezentowy wybrać cokolwiek z naszej oferty.
Mae straen yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Mae'n dod i'n rhan ni i gyd. Meddyliwch am bwysedd gwaed: os ydych chi'n fyw, mae gennych chi bwysedd gwaed. Os ydych chi'n fyw, mae gennych chi straen. Os yw eich pwysedd gwaed yn mynd yn rhy uchel, dylech chi wneud rhywbeth amdano; mae'r un peth yn wir am straen. Nod y llyfr hwn yw eich helpu i wneud hynny.Mae straen yn gallu bod yn gymysgedd o orbryder, iselder, teimladau o banig, cysgu'n wael, diff yg hunanhyder, diff yg hunan-werth a diff yg ymdeimlad o les personol. Ond dydy rheoli'ch straen ddim o reidrwydd yn golygu therapi drud neu fod ar restr aros hir i gael eich atgyfeirio at wasanaeth perthnasol, os ewch chi ati i ddefnyddio'r technegau yn y llyfr hwn i: Ddatblygu set o sgiliau i reoli straen yn y tymor hir Dilyn camau syml i gael ymdeimlad o reolaeth yn syth bin Dysgu am straen a sut mae'n eff eithio arnoch chi Hybu'ch lles Teimlo bod gennych chi reolaeth o'ch dyfodolMae'r llyfr yn hawdd ei ddarllen a does dim jargon ynddo. Mae'n cyfuno dulliau sydd wedi ennill eu plwyf yn glinigol o feysydd therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), seicoleg gadarnhaol ac ymwybyddiaeth ofalgar, gan roi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi i wella'ch meddwl, eich corff a'ch bywyd.
Cześć! Jestem Libroamiko, Twój doradca książkowy.
Jak mogę Ci pomóc?