18 523 037 książek w 175 językach
Jednak się nie przyda? Nic nie szkodzi! Możesz zwrócić produkty nawet do 30 dni
Bon prezentowy to zawsze dobry pomysł. Obdarowany może za bon prezentowy wybrać cokolwiek z naszej oferty.
Nawet do 30 dni na zwrot
Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill
Eben Fardd
Eben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llŷn, ac mewn mân swyddi eraill.
Roedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl Dinistr Jerusalem, ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar ôl sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw, er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl Y Flwyddyn.
Eben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes: yng ngeiriau Thomas Parry, "gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg, ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.